Y Pwyllgor Menter a Busnes

Cyfarfod: 17 Medi 2015

Potensial yr Economi Forol yng Nghymru

 

Cyflwyniad

 

1.       Mae'r papur hwn wedi cael ei baratoi ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ("y Pwyllgor") ar 17 Medi 2015 a'r sesiynau tystiolaeth ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor i Potensial yr Economi Forol yng Nghymru.

 

2.       Mae Rhodri Glyn Thomas AC ym Mrwsel heddiw fel rhan o'r gwaith o gasglu tystiolaeth ar gyfer ei adroddiad o'r 'adroddiad rhag blaen' y mae'n ei baratoi i Bwyllgor y Rhanbarthau ar Ddatblygu Potensial Ynni'r Môr. Mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r adroddiad drafft – y cytunwyd arni yng nghyfarod Comisiwn ENVE [1] o Bwyllgor y Rhanbarthau ar 30 Mehefin, 2015 – wedi'i hatodi. Mae'r fersiwn hon yn cynnwys rhai gwelliannau (y cytunodd Rhodri i bob un ond un ohonynt) i'r drafft gwreiddiol a anfonwyd at dîm clercio'r Pwyllgor at sylw'r aelodau ar 5 Mehefin.

 

Rapporteurs

 

3.         Mae Pwyllgor y Rhanbarthau yn mabwysiadu safbwyntiau gwleidyddol ar gynigion polisi a deddfwriaethol yr UE, a hynny ar ffurf adroddiadau y cytunir arnynt. Os y llunir y rhain mewn ymateb i Gyfathrebiadau ffurfiol neu geisiadau gan un o sefydliadau'r UE (y Comisiwn Ewropeaidd, fel arfer) fe'u gelwir yn 'farn'. Os nad ydynt mewn ymateb i Gyfathrebiad/cais ffurfiol, gelwir adroddiadau o'r fath yn 'farn rhag blaen' (own-initiative opinions).

 

4.        Penodir aelodau unigol o Bwyllgor y Rhanbarthau i baratoi drafft o'r farn, a gwneir hyn fel arfer drwy'r 'Comisiynau' thematig (h.y. Pwyllgorau), gyda'r aelodau yn cael eu henwebu gan eu grwpiau gwleidyddol. Ar ôl i'r rapporteur gael ei benodi, bydd yn enwebu arbenigwr fel arfer i gefnogi'r gwaith o baratoi'r farn. Penodwyd Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa UE y Cynulliad, gan Rhodri i fod yn arbenigwr ar gyfer paratoi'r farn hon. Cyflawnodd Gregg y rôl hon yn y gorffennol ar gyfer y tri adroddiad y mae Rhodri wedi'u paratoi ar gyfer Pwyllgor y Rhanbarthau, yn ogystal a'r ddau adroddiad a baraotwyd gan Christine Chapman yn ystod ei chyfnod hi fel aelod o Bwyllgor y Rhanbarthau. Diben y rôl yn bennaf yw trefnu, cydlynu, a chynorthwyo i ddrafftio'r adroddiad, a hwyluso'r gwaith gyda gwasanaethau Pwyllgor y Rhanbarthau a'r grwpiau gwleidyddol.


Datblygu Potensial Ynni'r Môr

 

5.        Penodwyd Rhodri i lunio barn ddrafft gan y Comisiwn ENVE ar 3 Mawrth 2015 a chadarnhawyd hyn gan swyddfa wleidyddol Pwyllgor y Rhanbarthau ar 18 Mawrth 2015.

 

6.        Mae'r adroddiad yn mynd drwy broses fabwysiadu dau gam:

 

-       'Cam pwyllgor': mabwysiadu adroddiad drafft yn y Comisiwn ENVE ar 30 Mehefin, 2015.

-       'Cam y cyfarfod llawn': mabwysiadu adroddiad drafft diwygiedig (gan ymgorffori gwelliannau y cytunwyd arnynt yn ystod y 'cam pwyllgor' ac wedyn yn ystod y cyfarfod llawn) gan gyfarfod llawn Pwyllgor y Rhanbarthau, a drefnwyd ar gyfer 13-14 Hydref 2015.

 

Paratoi'r adroddiad: casglu tystiolaeth

 

7.        Gwneir y rhan fwyaf o'r gwaith o gasglu tystiolaeth fel sail i'r farn ddrafft wrth baratoi ar gyfer y cam cyntaf, sef y 'cam pwyllgor'.

 

8.        Fel rhan o'r gwaith o gasglu tystiolaeth cafodd Rhodri nifer o gyfarfodydd ym Mrwsel (a Lwcsembwrg) ym mis Ebrill a mis Mai. Cafodd hefyd gyfarfodydd yng Nghymru gyda Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chysylltu â sefydliadau rhanddeiliaid yng Nghymru.

 

9.        Roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:

 

-       Y Tîm Ynni Adnewyddadwy ym Manc Buddsoddi Ewrop yn ei bencadlys yn Lwcsembwrg

-       Lowri Evans, a oedd ar y pryd yn Gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar Faterion Morol (MARE), sef y gyfarwyddiaeth gyffredinol o fewn y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gyfrifol am gydlynu Fforwm Ynni'r Môr

-       Swyddogion eraill o gyfarwyddiaeth MARE, yn ogystal â swyddogion o'r cyfarwyddiaethau cyffredinol ar Bolisi Rhanbarthol, Ynni, ac Ymchwil.

-       Digwyddiad ymgynghori â rhanddeiliaid ym Mhwyllgor y Rhanbarthau ar 4 Mai gyda chynrychiolwyr o swyddfeydd rhanbarthol, rhwydweithiau'r UE (gan gynnwys Ocean Energy Europe a CPMR), y sector preifat, cyrff anllywodraethol amgylcheddol (daeth tua 20 o bobl i'r digwyddiad hwn).

-       Cyfarfodydd gydag Aelodau o Senedd Ewrop gan gynnwys Derek Vaughan ASE a'r ASE o Iwerddon, Sean Kelly (a ysgrifennodd adroddiad ar gyfer Senedd Ewrop ar Dwf Glas yn 2013[2])

-       Cyfarfodydd gyda gwleidyddion/swyddogion o'r Conseil Régionale de Bretagne

-       Cyfarfod gyda Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a'i swyddogion; Jeff Andrews, Cynghorydd Arbennigol i Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Gyllid a Busnes y Llywodraeth

-       Cymryd rhan yn Fforwm Ynni'r Môr (14 Ebrill) ym Mrwsel

 

10.     Bu swyddfa Rhodri mewn cysylltiad â chwmni Tidal Lagoon Swansea Bay, a bu hefyd yn cynnal gwaith ymchwil desg helaeth ar sector ynni'r môr yng Nghymru, y DU a rhannau eraill o'r UE.

 

11.     Defnyddiwyd nifer o adroddiadau rhagorol a gwefannau ar sector newydd ynni'r môr wrth baratoi'r farn gan gynnwys:

 

-       Adroddiad Statws Ynni'r Môr JRC 2014 - ar gael yma:  https://ec.europa.eu/jrc/en/publication/eur-scientific-and-technical-research-reports/2014-jrc-ocean-energy-status-report

-        Strategaeth Defnyddio'r Farchnad Ynni'r Tonnau a'r Llanw ar gyfer Ewrop (Mehefin 2014) o'r fenter strategol Ocean Project - ar gael yma:  http://www.si-ocean.eu/en/Market-Deployment/Market-Deployment-Strategy/

-        Gwefan Ocean Energy Systems (http://www.ocean-energy-systems.org/index.php) sy'n cynnwys adroddiadau gwledydd ar ddatblygu ynni'r môr ar draws yr UE ac yn fyd-eang

-        Gwefan Ocean Energy ERA-NET  http://www.oceaneranet.eu/pages/home-5.html

 

Prif negeseuon / casgliadau'r adroddiad

 

12.     Canolbwyntiodd y farn ddrafft ar nifer o themâu allweddol, sy'n cael eu nodi ym mhob un o adrannau'r adroddiad.

 

Pwysigrwydd y sector:

Yn benodol, roedd yn amlwg o'r ymchwil fod gan sector ynni'r môr botensial enfawr fel ffynhonnell ddibynadwy o ynni adnewyddadwy, a honno'n ffynhonell nad oes fawr o fanteisio wedi bod arni hyd yn hyn. Mae hefyd yn cynnig manteision ehangach wrth helpu i gyflawni targedau newid hinsawdd ac ynni, gan gyfrannu at sicrwydd ynni; mae'n cynnig potensial enfawr ar gyfer creu cyflogaeth a thwf economaidd, gan gynnwys cyfleoedd arallgyfeirio i borthladdoedd a chymunedau arfordirol (gan gynnwys gweithgareddau twristiaeth/hamdden); mae'n cynnig potensial i ddatblygu ymchwil, cyfalaf gwybodaeth ddeallusol a gwella sgiliau (gan gynnwys cyfleoedd ailhyfforddi)

 

Amrywiaeth o fathau o ynni a thechnolegau'r môr

Mae pum prif fath o dechnolegau ynni'r môr ac mae i bob un ei heriau a'i problemau datblygu, ac maent i gyd ar wahanol lefelau o aeddfedrwydd a datblygiad. O'r rhain, amrediad llanw yw'r mwyaf aeddfed o ran ei datblygiad ac sydd â'r dechnoleg sydd wedi'i phrofi i'r graddau pellaf, ac yn y dechnoleg hon – drwy lagwnau llanw – y mae gan Gymru ddiddordeb arbennig ynddi ar hyn o bryd, ac roedd yn amlwg bod cydnabyddiaeth glir ar lefel yr UE o rôl arweiniol Cymru yn y maes hwn. Fodd bynnag, mae amrediad llanw yn gyfyngedig yn ddaearyddol o'i gymharu â mathau eraill o ynni'r môr, yn enwedig ynni'r tonnau.

 

Pwysigrwydd y lefel is-Aelod-wladwriaeth (neu 'ranbarthau' fel y'u gelwir yn yr UE):

Roedd tystiolaeth glir bod llawer o'r prosiectau a'r mentrau sy'n dod i'r amlwg yn digwydd ar y lefel is-Aelod-wladwriaeth, a gefnogir gan awdurdodau is-Aelod-wladwriaeth. Mae Iwerddon a Phortiwgal yn ddwy Aelod-wladwriaeth sydd â chynlluniau cenedlaethol ar gyfer ynni'r môr, ond mae tystiolaeth y gellid gwneud mwy gan lywodraethau cenedlaethol i flaenoriaethu datblygiad ynni'r môr.

 

Heriau/rhwystrau amlwg i dwf y sector:

Mae'r moroedd a'r cefnforoedd yn amgylchedd llym a drud i gynnal profion ac ymchwil, o'i gymharu ag ynni adnewyddadwy ar y tir. Mae consensws o ran y rhwystrau/heriau sy'n wynebu datblygiad y sector, a chânt eu grwpio yn ôl heriau seilwaith technolegol, heriau ariannol, heriau amgylcheddol, heriau gweinyddol/llywodraethu, a heriau sy'n gysylltiedig â'r grid.

 

Angen clir am weithredu cydgysylltiedig ar lefel yr UE i oresgyn y rhwystrau: O ystyried natur yr heriau, a'r adnodd a rennir y mae'r moroedd a'r cefnforoedd yn eu cynrychioli, mae achos clir ar gyfer gweithredu ar lefel yr UE. Mae Fforwm Ynni'r Môr a'r Cynllun Mapio Ynni'r Môr (y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn hydref 2015) yn elfennau allweddol i wireddu hyn.

 

Mynd i'r afael â rhwystrau ariannol:

Mae cyllid ar lefel yr UE yn flaenoriaeth benodol, sy'n golygu Cyllid yr UE a chyllid benthyciadau Banc Buddsoddi Ewrop, yn y cyfnodau cynnar o ddatblygu a phrofi technolegau newydd ynni'r môr, er mwyn symud y technolegau i sefyllfa lle y gellir denu cyllid sector preifat. Mae tystiolaeth bod pethau'n symud i'r cyfeiriad iawn – lansiodd Banc Buddsoddi Ewrop gronfa newydd ym mis Gorffennaf i gefnogi prosiectau arddangos yn y maes ynni – prosiectau demo ynni InnovFin.[3] Fodd bynnag, mae hefyd yn amlwg y gellid gwneud mwy – ac mae angen i'r sector lobïo i sicrhau bod mentrau megis Cynllun Buddsoddi Juncker, NER400 a ffrydiau cyllid yr UE, yn cael eu defnyddio i gefnogi datblygiad y sector. Mae hyn hefyd yn golygu edrych ar y gyfundrefn Cymorth Gwladwriaethol er mwyn sicrhau ei bod yn helpu yn hytrach na rhwystro datblygiad y sector. Nodwyd bod Cymru wedi'i hadnabod fel un o'r ychydig ardaloedd yn Ewrop lle mae rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yn cynnwys blaenoriaethau penodol i gefnogi ynni'r môr, gyda tua €100m wedi'i glustnodi ar gyfer hyn yn rhaglenni Cymru ar gyfer 2014-2020.

 

Potensial i ddatblygu Rhanbarth Macro ar gyfer ardal yr Iwerydd

Gan barhau â'r thema o gael rhagor o gydweithredu ar lefel yr UE, mae achos dros ddatblygu Rhanbarth Macro ar gyfer Ardal yr Iwerydd, gan ddwyn ynghyd y pum Aelod-wladwriaeth (a'r gwahanol awdurdodau is-wladwriaeth) i gytuno ar ddull cydlynol i ddatblygu technolegau ynni'r môr yn ardal yr Iwerydd. Gallid defnyddio Rhaglen Cydweithio Tiriogaethol Ardal yr Iwerydd fel un o'r dulliau ariannol ar lefel yr UE i gefnogi datblygiad a gweithrediad y Rhanbarth Macro, ynghyd â buddsoddiadau gan Fanc Buddsoddi Ewrop a ffynonellau cyllid eraill yr UE.

 

Yr amgylchedd a materion cydsynio:

Mae tryloywder ac ymgysylltiad â chyrff anllywodraethol amgylcheddol a chasglu data cywir ar fioleg/eco-systemau'r môr yn faterion hanfodol bwysig. Mae'r maes hwn yn gofyn am ddull aml-lywodraethol – lleol/is-genedlaethol, cenedlaethol a lefel yr UE – gan gynnwys defnydd effeithiol o gynllunio gofodol morol. Enwyd yr Alban fel enghraifft o ble mae prosesau gweinyddol wedi cael eu symleiddio er mwyn rhoi eglurder i fuddsoddwyr posibl.

 

Ymwybyddiaeth a chyfathrebu:

O ystyried yr heriau i ddatblygu'r sector mae'n hanfodol bod ymwybyddiaeth gyhoeddus gref o'r potensial y mae ynni'r môr yn ei gynnig i ennill 'calonnau a meddyliau' pobl ac i osgoi'r problemau y mae mathau eraill o ynni adnewyddadwy, yn enwedig ffermydd gwynt ar y tir, wedi'u hwynebu.

 

Y camau nesaf

 

13.     Ar ôl i'r farn gael ei chytuno arni gan gyfarfod llawn Pwyllgor y Rhanbarthau fis nesaf caiff ei mabwysiadu fel safbwynt swyddogol y Pwyllgor ar sector ynni'r môr. Bydd yn cael ei hanfon at y sefydliadau eraill yr UE i'w nodi, gan gynnwys Banc Buddsoddi Ewrop.

 

14.     Mae amseriad yr adroddiad yn golygu y bydd yn cael ei ystyried wrth gwblhau'r Cynllun Mapio sy'n cael ei baratoi gan Fforwm Ynni'r Môr, sy'n cyfarfod nesaf yn Iwerddon ar 21 Hydref.

 

15.     Fel arfer bydd Pwyllgor y Rhanbarthau yn trefnu digwyddiadau a chynadleddau dilynol ar adroddiadau allweddol y mae wedi'u mabwysiadu, gan gynnwys yn ystod wythnos Diwrnodau Agored blynyddol y rhanbarthau a gynhelir ym mis Hydref, y bydd Rhodri yn cael gwahoddiad i siarad neu gadeirio digwyddiad. Yn yr un modd, pan fydd y Comisiwn Ewropeaidd neu gyrff eraill yn trefnu digwyddiadau, bydd Rhodri yn cael ei wahodd i siarad ynddynt neu eu mynychu er mwyn cyflwyno safbwynt Pwyllgor y Rhanbarthau. Byddai hyn yn cynnwys cyfarfodydd o Fforwm Ynni'r Môr. Siaradodd Rhodri mewn sawl digwyddiad yn ystod 2013 a 2014 fel rhan o'r gwaith o gwmpas y ddwy farn flaenorol ar synergeddau cyllidebau a phartneriaethau cyhoeddus preifat y bu'n ymwneud â hwy.

 

16.     O ystyried y diddordeb mawr yng Nghymru yn sector ynni'r môr, gan gynnwys ymchwiliad y Pwyllgor i'r economi forol, bydd yna hefyd gyfleoedd i drefnu digwyddiadau dilynol eraill yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y themâu a'r materion a nodwyd yn yr adroddiad. Fel y nodwyd uchod bydd cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth i ddal dychymyg y cyhoedd yn hollbwysig i sicrhau dyfodol hyfyw ar gyfer y sector hwn.

 

Rhodri Glyn Thomas AC

Aelod Pwyllgor y Rhanbarthau (eilydd)

11 Medi 2015



[1]Mae Rhodri Glyn Thomas AC yn eistedd ar Gomisiwn ENVE - sef y 'Pwyllgor' o fewn Pwyllgor y Rhanbarthau sy'n gyfrifol am yr Amgylchedd, Ynni a Newid Hinsawdd.

[2]Gweler  http://www.europarl.europa.eu/sides/getDoc.do?type=REPORT&reference=A7-2013-0209&language=EN

[3] Gweler http://www.eib.org/infocentre/press/releases/all/2015/2015-134-eib-group-and-ec-expand-support-for-innovative-companies-across-europe.htm